Ffôn 03000 6 03000
Mae’r
Gwasanaeth Hyrwyddo Cyflenwyr yma i roi llais i gyflenwyr…
Rydym yn wasanaeth wedi’i gomisiynu gan
Trafnidiaeth Cymru ac
rydym yn gweithio’n agos ag Asiantaethau Cymorth Busnes yng Nghymru
i sicrhau bod cynifer â phosibl o fusnesau bach lleol yn cymryd
rhan.
Bydd y buddsoddiad sy’n cael ei wneud yn awr yn esgor ar fuddiannau
economaidd mawr i gymunedau ledled Cymru, ymhell y tu hwnt i well
system drafnidiaeth ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd yn unig –
a’n gwaith ni yw eich
cynorthwyo chi i fanteisio i’r eithaf ar y buddsoddiad hwnnw.
Rydym yn cefnogi Trafnidiaeth i Gymru wrth gyflawni nodau
Deddf Lles y Dyfodol
Cwestiynau Cyffredin…
·
Sut gallaf gymryd rhan? –
cofrestrwch ar GwerthwchiGymru i
gael hysbysiadau ynghylch tendrau.
·
Ai dim ond ar gyfer Adeiladu y mae hyn? –
bydd gofynion yn datblygu ar gyfer
ystod eang o
fusnesau yn
cwmpasu pob agwedd ar ddarparu trafnidiaeth – popeth o arlwyo i osod
traciau.
·
Ydw i’n rhy fach i dendro? – gall
busnesau o bob maint dendro’n llwyddiannus.
·
Ddylwn i ystyried gweithio gyda busnesau eraill i gynhyrchu
cais ar y cyd?
- dylech, mae Trafnidiaeth Cymru yn annog ceisiadau ar y cyd gan
gyflenwyr llai.
·
Sut gallaf ddefnyddio Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy gan gynnwys
Buddiannau Cymunedol? - gweler y
dudalen ar
weithio’n fwy
effeithlon a chynaliadwy gan
arbed arian ar yr un pryd.
·
Os bydd fy nhendr yn aflwyddiannus, sut gallaf wella? – rhan
o’n gwasanaeth yw eich cynorthwyo i ddeall adborth gan y prynwr a
gwella’r canlyniad
y tro nesaf –
rydym ni’n fusnes bach ein hunain, ac yn gyfarwydd â’r sefyllfa...
·
Beth ddylwn i ei wneud os wyf yn gontractwr ac nad wyf yn cael fy
nhrin yn deg? – cysylltwch
â ni os ydych yn rhan o unrhyw gontract Trafnidiaeth Cymru ac
nad ydych yn cael
eich trin yn deg mewn unrhyw fodd.
Byddwn yn trefnu amser cyfleus i drafod â chi ac yn ymchwilio’n
llawn ar eich rhan.
·
Os gwn am rywun sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd ac sydd angen swydd
neu sy’n mynd ymlaen i addysg bellach, a yw Trafnidiaeth yn ddewis
da o ran gyrfa, a phwy y dylwn i siarad â hwy?
cysylltwch â ni a
gallwn eich cyfeirio at gyfleoedd gwych am hyfforddiant a
phrentisiaethau.
Mae hwn yn gyfle enfawr i bawb yng Nghymru, felly dyma’r adeg i
gymryd rhan.